Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
2 Mehefin 2014
CLA403 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau
sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru)
2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a) Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999,
(b) Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(c) Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, a
(d) Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006.
Bydd hyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“y Prif Arolygydd”) sicrhau bod arolygiadau’n cael eu cynnal gan Estyn o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014. Bydd y diwygiadau yn rhoi mwy o le i’r Prif Arolygydd amrywio’r dyddiad y caiff ysgol neu sefydliad addysg ei arolygu er mwyn gwneud arolygiadau yn llai rhagweladwy. Bydd hyn yn caniatáu i’r Prif Arolygydd arolygu’r ysgolion hynny a all fod yn achosi pryder yn fwy aml. Mewn cyferbyniad os nad oes achos pryder o’r fath caniateir i’r ysgol gael ei harolygu’n llai aml.
CLA404
- Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru)
2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn dynodi sut y mae awdurdodau lleol yng
Nghymru i roi gwybod i Weinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau a
bennwyd ar gyfer ysgolion a gynhelir yn eu hardaloedd priodol, ac
erbyn pryd y dylid rhoi gwybod amdanynt.